Home Page »  A »  Aled Jones
   

Mae Hen Wlad Fy Nhadau Lyrics


Aled Jones Mae Hen Wlad Fy Nhadau


Mae hen wlad fy nhadau yn annwyl i mi
Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri
Ei gwrol ryfelwyr gwladgarwyr tra mad
Dros ryddid collasant eu gwaed

Cytgan:
Gwlad! gwlad! pleidiol wyf i'm gwlad
Tra môr yn fur
I'r bur hoff bau
O bydded i'r heniaith barhau

Hen Gymru fynyddig, paradwys y bardd
Pob dyffryn, pob clogwyn, i'm golwg sydd hardd
Trwy deimlad gwladgarol mor swynol yw si
Ei nentydd, afonydd i mi

Os treisiodd y gelyn fy ngwlad dan ei droed
Mae heniaith y Cymry mor fyw ag erioed
Ni luddiwyd yr awen gan erchyll law brad
Ni thelyn berseiniol fy ngwlad



Browse: